About Us
Since 2002 It’s My Shout Ltd has been specialising in finding and developing new talent for the film industry. Every year we work with communities to produce short films for our broadcast partners, BBC and S4C
For each production; we link communities with industry professionals, community associations, drama groups, schools as well as further education & higher education establishments, to find the best new talent in Wales. Our projects aim to provide opportunities in film production all year around in an integrated and progressively structured way.
Our main ethos is to engage young people in a creative activity that can inspire and grow confidence. We aim to provide them with both hard and soft skills which can be transferable in every aspect of their lives.
We provide workshops and training in the following roles:
• Production
• Sound Recording/ mixing/ boom operating/ composing
• Camera operating/ camera department/ stills photography
• Costume
• Set Design
• Stand by props
• Graphic design
• Location Scouting/Management
• Catering
• Hair and Make-up
• Direction
• Acting for Screen
• Post-production sound / composition
• Post-production picture editing
• Set/location runner
• Event management
Our award winning films have been shown all over the world on; BBC Cymru Wales, ITV Wales, S4C, Channel 4, The Euro Channel (Broadcast all over the world), on BBC ‘Big Screens’ (across all the major U.K. Cities), at Glastonbury Festival (as part of a specialist short film screening), and at Film Festivals around Europe including; The Celtic Film Festival and The Berlin Film Festival. We have also won 4 BAFTA Cymru Awards.
Amdanom Ni
Er 2002 mae It’s My Shout Ltd wedi bod yn arbenigo mewn darganfod a datblygu talentau newydd ar gyfer y diwydiant ffilm. Pob blwyddyn rydym yn gweithio â chymunedau i gynhyrchu ffilmiau byrion ar gyfer ein partneriaid darlledu, y BBC a S4C
Ar gyfer pob cynhyrchiad byddwn yn cysylltu cymunedau â gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, cymdeithasau cymunedol, grwpiau drama ac ysgolion, yn ogystal â sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, i ddod o hyd i’r talentau gorau yng Nghymru. Nod ein prosiectau yw cynnig cyfleoedd i gynhyrchu ffilmiau trwy gydol y flwyddyn mewn ffordd integredig, strwythuredig a blaengar.
Ein prif ethos yw denu pobl ifanc at weithgarwch creadigol sy’n gallu ysbrydoli ac ennyn hyder. Ein nod yw dysgu sgiliau caled a meddal iddynt a fydd yn drosglwyddadwy ym mhob agwedd ar eu bywydau.
Rydym yn cynnig gweithdai a hyfforddiant yn y rolau canlynol:
• Cynhyrchu
• Recordio / cymysgu sain / defnyddio microffon braich / cyfansoddi
• Gweithio camerâu / adran camera / tynnu ffotograffau llonydd
• Gwisgoedd
• Dylunio Setiau
• Celfi wrth gefn
• Dylunio graffeg
• Canfod / rheoli lleoliadau
• Arlwyo
• Gwallt a Cholur
• Cyfarwyddo
• Actio ar gyfer y Sgrin
• Sain ôl-gynhyrchu / cyfansoddi
• Golygu lluniau ôl-gynhyrchu
• Rhedwr ar set / lleoliad
• Rheoli digwyddiadau
Mae ein ffilmiau, sydd wedi ennill gwobrau, wedi cael eu dangos ar draws y byd; BBC Cymru Wales, ITV Wales, S4C, Channel 4, The Euro Channel (sy’n cael ei darlledu ar draws y byd), ar ‘Sgriniau Mawr’ y BBC (mewn dinasoedd mawr ledled y DU), yng Ngŵyl Glastonbury (fel rhan o ddangosiad o ffilmiau byrion), ac mewn Gwyliau Ffilm ledled Ewrop, gan gynnwys; Yr Ŵyl Ffilmiau Geltaidd a Gŵyl Ffilm Berlin. Rydym hefyd wedi ennill 4 Gwobr BAFTA Cymru.
Os hoffech chi weld rhagor o’n gwaith, ewch i’n Tudalen YouTube